Rhowch sosban fach ar y gwres gyda'r dŵr a'r menyn a'u toddi nhw gyda'i gilydd.
Yn y cyfamser, hidlwch y fflŵr gyda'r halen a phan mae'r menyn a'r dŵr wedi dod i'r berw, ychwanegwch y fflŵr a chymysgu'n dda nes bod y fflŵr sych wedi diflannu. Diffoddwch y gwres.
Gadewch iddo oeri ar y gwres am 3 munud tra eich bod yn torri'r wyau i mewn i bowlen. Curwch yr wyau ac ychwanegu eu hanner at y gymysgedd fflŵr, gan eu cymysgu'n egnïol i mewn i'r toes. Bydd y gymysgedd yn gwahanu i ddechrau ond yna fe fydd yn dod at ei gilydd.
Ychwanegwch ail hanner yr wyau ac ailadrodd y broses nes bod 'da chi does gludiog. Rhowch y gymysgedd mewn bag peipio. Does dim rhaid defnyddio nozzle – fe allwch chi dorri pig y bag i ffwrdd a gadael agoriad bach, neu ddefnyddio nozzle crwn.
Peipiwch y gymysgedd ar dun pobi wedi ei leinio (os nad oed papur gwrthsaim gyda chi, irwch y tun gyda menyn ac ychydig o fflŵr). Peipiwch beli bychain gan adael lle rhwng y naill a'r llall.
Pan fydd y gymysgedd wedi gorffen, rhowch eich bys mewn ychydig o ddŵr a gwasgu'r peli yn ysgafn i fflatio'r topiau. Brwsiwch y toes gyda'r wy wedi'i guro a'i roi yn y ffwrn ar 200°C am 10 munud.
Yna gadewch i'r gwres oeri i 170°C a phobi am 20 munud arall. Gadewch iddo oeri'n llwyr.
Ar gyfer y llenwad, defnyddiwch 2 fowlen ganolig eu maint. Arllwyswch yr hufen dwbwl i un fowlen a'i chwisgio gyda chwisg llaw nes bod yr hufen bron â ffurfio pigau stiff.
Rhowch hanner yr hufen yn yr ail fowlen. Ychwanegwch y siwgr eisin a'r fanila i un fowlen a'i chwisgio nes ei fod yn stiff.
Ychwanegwch y menyn cnau siocled i'r ail fowlen a'i gymysgu gyda'r hufen. Llenwch 2 fag peipio (gyda nozzles) a chan wasgu'n gadarn, llenwch bob proffiterol nes eich bod yn meddwl eu bod yn llawn, gan fynd yn ôl ac ymlaen rhwng y ddau hufen.
Toddwch y siocled gwyn trwy ei roi yn y meicrodon mewn bowlen addas am 20 eiliad ar y tro, gan ei droi ar ôl pob 20 eiliad nes ei fod wedi toddi. Fe allwch chi ddefnyddio'r un dull gyda'r siocled llaeth/tywyll neu ei gynhesu mewn sosban dros wres isel.
Dipiwch y proffiterol mewn siocled, yn ôl eich dewis chi, ond mae'r siocled gwyn a hufen fanila yn mynd yn dda gyda'r siocled gwyn ar ben y proffiterols a'r hufen Nutella yn mynd yn dda gyda'r siocled llaeth/tywyll.
Addurnwch gyda sprinkles os y'ch chi'n dymuno.
Rysaít gan Colleen Ramsey (Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd).