Yn gyntaf, cymysgwch y sinsir a'r garlleg a'u rhoi mewn bowlen gyda'r corgimychiaid ac 1 llwy fwrdd o olew. Gadewch iddyn nhw fwydo yn y marinâd am 15–20 munud.
Piliwch y moron yn ddarnau tenau gan ddefnyddio piliwr llysiau a rhannwch ddail y bok choy .
Rhowch un nyth o nŵdls reis sych mewn bowlen a'u gorchuddio â dŵr berw am 3 munud, yna gwaredwch y dŵr.
Cynheswch y ffreipan neu'r woc i wres canolig/uchel. Ychwanegwch 1 llwy fwrdd o olew sesame a'r bok choy am tua 30 eiliad, ei sesno gyda halen a phupur, yna rhoi'r dail o'r neilltu yn barod i addurno. Yna ychwanegwch y corgimychiaid i'r ffreipan gyda'r sinsir a'r garlleg a'r lemonwellt.
Tro-ffrïwch nes bod y corgimychiaid yn binc ar y ddwy ochr, yna i mewn â'r moron, y past miso a'r gochujang a'u troi am ryw 30 eiliad. Ychwanegwch y dashi neu'r stoc a throi nes i'r past ddiflannu a chreu ramen cyfoethog. Ychwanegwch y nŵdls reis a'u cynhesu am funud. Gwaredwch y lemonwellt a blasu – os ydych chi eisiau cic hallt yna ychwanegwch sblash o saws soi.
Gweinwch y ramen mewn bowlen ac ychwanegu'r bok choy wedi gwywo, shibwns, coriander ffres wedi ei dorri, tsili ffres os ydych chi'n dymuno, hadau sesame a gwasgiad o leim ffres.
Rysaít gan Colleen Ramsey (Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd).