Rhoi'r bacwn mewn padell ffrio a'i ffrio nes yn frown a crensiog. Ei roi ar bapur cegin i oeri.
Hidlo'r blawd ac ychwanegu'r menyn a'r halen.
Rhwbio'r menyn i mewn i'r blawd.
Ychwanegu'r caws (cadw ychydig i ysgeintio ar yr wyneb), chives a'r powdr cayenne.
Gwneud twll yn y canol ac ychwanegu'r wy wedi'i guro ac ychydig o'r llaeth. Defnyddio cyllell i droi'r cyfan a dod at ei gilydd fel toes. Defnyddio fwy o laeth os angen.
Ysgeintio ychydig o flawd ar y bwrdd a rowlio neu wasgu'r gymysgfa i tua 4cm o drwch, torri allan cylchoedd gyda thorrwr sgon. Eu rhoi ar 'tray' pobi.
Brwsio'r wyneb gydag ychydig o laeth ac ysgeintio gweddill y caws ar yr wyneb.
Rhoi yn y popty am tua 15- 20 munud.
Rysáit gan Elwen Roberts / Hybu Cig Cymru, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.
Rhannu’r rysáit
Rhannu’r rysáit trwy:
Copio’r ddolen
Sut i goginio
Copio
Wedi’i gopio
Gofynnwn yn garedig i chi feddwl am yr amgylchedd cyn i chi brintio.Please consider the environment before printing.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?