300g o friwgig cig eidion Cymru PGI heb lawer o fraster
1 pecyn o gymysgedd toes pizza, wedi ei wneud yn ôl y cynhwysion neu does pizza o'r siop neu gwnewch eich toes pizza eich hun. Bydd angen digon o does pizza arnoch i wneud 2 gylch 20cm
pupur a halen
1 winwnsyn, wedi ei sleisio neu ei dorri
1 pupur coch neu melyn, wedi ei dorri'n stribedi
25g madarch
llond llaw o sbigoglys
llond llaw o domatos bychain, wedi eu haneru
1 ewin garlleg, wedi ei falu
2 lwy fwrdd purée tomato
1 llwy fwrdd saws coch
1 llwy de oregano sych
75g caws cheddar, wedi ei ratio
Dull
Cynheswch y ffwrn i 220°C / 200°C ffan / Nwy 6.
Ffriwch y mins cig eidion yn sych tan ei fod yn frown, gan ei adael yn dalpiau.
Ychwanegwch y winwnsyn, y pupurau a'r madarch a'u ffrio'n ysgafn i'w meddalu.
Ychwanegwch yr holl gynhwysion eraill heblaw am y caws. Cymysgwch y cyfan a gadewch y gymysgedd i oeri.
Ar fwrdd â blawd, rholiwch y toes pizza allan yn 2 gylch tua 20cm yr un.
Rhowch y cylchoedd toes pizza ar bapur pobi.
Cymysgwch y caws i mewn i'r gymysgedd cig eidion. Hanerwch y gymysgedd cig eidion a'i rhoi ar hanner pob cylch toes pizza gyda llwy, gan adael 3cm o gwmpas yr ymyl.
Gwlychwch yr ymylon gyda dŵr a phlygu'r toes pizza dros hanner y cylch i ffurfio'r calzone.
Pwyswch i selio'r ymylon. Gan ddefnyddio eich bysedd, crimpiwch neu plygwch y toes i ffurfio patrwm o gwmpas ymyl y calzone.
Codwch y calzone ar hambwrdd pobi yn ofalus a'i roi yn y ffwrn am ryw 20 munud tan fod y toes yn euraidd ac yn grimp.
Rysáit gan Elwen Roberts / Hybu Cig Cymru, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.
Rhannu’r rysáit
Rhannu’r rysáit trwy:
Copio’r ddolen
Sut i goginio
Copio
Wedi’i gopio
Gofynnwn yn garedig i chi feddwl am yr amgylchedd cyn i chi brintio.Please consider the environment before printing.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?