Elwen Roberts
calendar Dydd Llun, 11 Ebrill 2022
Cacen sinsir
Cynhwysion
- 250g blawd codi
- 2 lwy de bowdr sinsir
- 1 llwy de bowdr bicarb
- ½ llwy de bowdr sinamon
- 100g fenyn di hallt
- 100g surop euraidd
- 100g triog
- 100g siwgr brown meddal
- 50g sinsir mewn suryp
- 2 ŵy canolig
- 200ml llaeth
- 100g siwgr eisin
- 2 lwy fwrdd surop sinsir
Dull
- Cynhesu'r popty i 180°c | Ffan 160°c | Nwy 4.
- Iro tin sgwar 20cm a'i leinio gyda papur gwrthsaim
- Mewn prosesydd bwyd cymysgu'r blawd, sbeisys, bicarb a'r menyn nes fel briwsion bara.
- Rhoi'r suryp a'r triogl mewn sosban gyda'r siwgr a'r sunsur. Cynhesu nes mae'r siwgr wedi toddi yna ei gymysgu I'r gymysgfa blawd a menyn.
- Ei droi i'r tin cacen a coginio am tua 40-45 munud.
- Tua 10 munud cyn I'r gacen fod yn barod, rhowch yr siwgr eisin mewn powlen gyda 2 lwy fwrdd o ddwr berwedig a'r suryp sunsur a'I droi yn dda.
- Tynnu'r gacen allan o'r popty, gadael iddo oeri am rhyw 10 munud yna neu tyllau bacha r hyd yr wyneb ac gyda llwy rhowch yr eisin suryp dros yr wyneb.
- Gallwch ei bwyta'n oer neu yn boeth fel pwdin.
Rysáit gan Elwen Roberts / Hybu Cig Cymru, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.
Sut i goginio
Copio
Wedi’i gopio