800g darn chuck cig eidion Cymru wedi ei dorri'n giwbiau
4 lwy fwrdd flawd
pupur a halen
olew I ffrio
4 sleisen o facwn – wedi ei dorri
2 nionyn mawr – wedi eu sleisio
3 clof garlleg, wedi ei dorri
3 moron wedi eu sleisio
3 ffon seleri- wedi eu torri
2 lwy fwrdd piwre tomato
1 tin neu botel o stowt / Guinness (neu stoc)
400ml stoc eidion
1 llwy de o siwgr
I'r rarebit syml;
100g gaws cheddar cryf wedi gratio
½ llwy de bowdr mwstard
4 llwy fwrdd Guinness
tafelli bara wedi eu tostio.
Dull
Rhowch yr blawd mewn powlen ac ychwanegu'r pupur a halen, yna rhowch yr cig I fewn a'I gymysgu.
Ffrio'r cig I frownio, yna ei dynnu allan a'I roi ar blat
Ffrio'r bacwn, nionod a'r garlleg I feddalu a brownio
Rhoi'r cig yn ol gyda'r moron a'r seleri a ffrio am 2 funud.
Ychwanegu gweddill yr cynhwysion, ei droi yn dda a'i godi i ferwi.
Rhoi caead arno a mudferwi am tua 2- 2 ½ awr nes fod yr cig yn feddal a'r stiw wedi tewychu.
I wneud yr 'rarebit' – cymysgu'r cynhwysion gyda'I gilydd yne ei roi ar ben yr tafelli bara wedi'i tostio, eu rhoi o dan yr gril nes yn euraidd a'u gweini gyda'r caserol a tatws wedi eu mashio.
[Addas ar gyfer Cwcer araf (slow cooker)]
Rysáit gan Elwen Roberts / Hybu Cig Cymru, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.