Rhoi'r blawd, bicarb a'r halen gyda'i gilydd a'u cymysgu
Mewn powlen curo'r menyn a'r siwgr nes yn ysgafn, ychwanegu'r wyau yn raddol, yna yr bananas, blas fanila a'r llaeth. Curo yn dda.
Ychwanegwch yr gymysgfa blawd a'I droi yn ysgafn.
Cynheswch yr past siocled unai mewn bowlen dros sosban neu yn yr microdon am 10 eiliad nes yn feddal, yna rhoi ¼ yr gymysgfa banana ynddo a'I droi.
Rhowch lwyeidiaid o'r gymysgfa banana yn yr tun a peth o'r gymysgfa siocled rhwng bob pentwr- yna ei 'swirlio' yn defnyddio llwy. Peidiwch a cymysgu'r cyfan gyda'i gilydd.
Ei roi yn yr popty am tua 60 munud. Gallwch weini gyda fwy o siocled!
Rysáit gan Elwen Roberts / Hybu Cig Cymru, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.