Elwen Roberts
calendar Dydd Iau, 09 Rhagfyr 2021
Gamwn Nadoligaidd
Cynhwysion
- darn o ham (pwysau i siwtio eich teulu)
- 1 tin o seidr
- 1 peint o sudd afal
- 2 ' bay leaf'
- 1 llwy de peppercorns
- 1 llwy de hadau coriander
Ar gyfer y sglein:
- 50g siwgr brown golau
- 1 llwy fwrdd o fel clir
- 2 lwy de o fwstard
- 2 lwy fwrdd o saws soy
- croen 2 x clementin
- 1 llwy fwrdd marmaled
- cloves – i addurno
Dull
- Pwyso'r darn cig i weithio allan faint o amser fydd angen – 25 munud i bob 450g(1lbs) wedi iddo ddod i'r berw.
- Rhoi'r darn o gig i fewn i sosban fawr ac gorchuddio gyda'r seidr, sudd afal, yna dwr i orchuddio'r darn cig.
- Rhoi yr gweddill y cynhwysion i fewn.
- Ei god i ferwi yna berwi yn araf am yr amser.
- Yna ei godi o'r hylif a'i oeri am tua 15 munud. Tynnu'r haen croen yn ofalus yn gadael haen o fraster arno.
- Gwneud patrwm gyda cyllell finiog yn yr braster yn unig. Rhoi clof ym mhob sgwar / diamwnd.
- Cymysgu cynhwysion yr glaze a'i frwsio dros y darn cig.
Rysáit gan Elwen Roberts / Hybu Cig Cymru, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.
Sut i goginio
Copio
Wedi’i gopio