Dechreuwch gyda'r saws tomato. Mae hwn yn saws melys syml i gyd-fynd â'r peli cig sawrus.
Cynheswch yr olew mewn sosban fawr. Taflwch y winwnsyn a'r moron wedi'u torri'n fras i mewn a'u coginio am ychydig funudau. Rhowch y ciwb o stoc yn y dŵr berw. Yna ychwanegwch hwn, ynghyd â holl gynhwysion y saws sy'n weddill, i'r sosban. Unwaith y bydd y cyfan yn berwi trowch y gwres i lawr nes bod y saws yn mudferwi. Mudferwch nes fod y winwns a'r moron yn ddigon meddal i'w hylifo.
Tra bod y saws yn mudferwi, mewn bowlen cyfunwch y briwsion bara gyda'r llaeth a gadael iddyn nhw fwydo am ychydig funudau. Yna ychwanegwch y garlleg, yr wy, y caws Parmesan, y cig, y persli a'r basil a sesno'n dda gyda halen a phupur.
Cymysgwch y cyfan â'ch dwylo am ychydig funudau, ond ddim yn rhy hir rhag gwneud y peli cig yn galed.
Chwistrellwch yr olew ar hyd y tun pobi a chreu peli tua'r un maint ag wy mawr. Chwistrellwch y peli ag olew ac yna eu brownio o dan gril poeth am tua 10 munud.
Tra eu bod yn brownio fe allwch dynnu y teim a'r dail llawryf a hylifo'r saws tomato gyda chymysgydd llaw nes ei fod yn llyfn, ac yna ei roi yn ôl ar wres uchel i leihau ychydig.
Pan fydd y peli cig wedi brownio'n braf, tynnwch nhw allan o'r ffwrn a'u rhoi yn y saws am 35–40 munud ar wres isel gyda chlawr ar eu pennau.
Coginiwch y pasta (dwi'n argymell pappardelle neu sbageti) mewn dŵr hallt, nes ei fod yn al dente . Draeniwch gan gadw llond mẁg o'r dŵr pasta. Rhowch y pasta wedi'i ddraenio yn ôl yn y sosban gynnes wag.
Blaswch y saws ac ychwanegu mwy o halen a phupur os oes angen. Rhowch y saws ar ben y pasta ynghyd â sblash o ddŵr y pasta a chymysgu nes bod y pasta wedi amsugno'r saws ac wedi ei orchuddio ganddo.
Gweinwch gylch braf o basta gyda chymaint o beli cig perffaith ar ei ben ag y'ch chi moyn.
Buon appetito, amici.
Rysaít gan Colleen Ramsey (Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd).