Cynheswch y gril i wres uchel. Cymysgwch hanner y feta mewn cymysgydd bwyd gyda'r iogwrt nes eu bod yn llyfn fel caws hufennog y mae modd ei daenu. Yna gwasgwch ychydig o fêl i'r gymysgedd. Taenwch y cyfan ar hyd gwaelod ffreipan fach gyda chaead.
Tynnwch y coesau oddi ar y sbinaets a gadael iddo wywo mewn ffreipan sych. Tynnwch y ffreipan oddi ar y gwres a'i ychwanegu at y feta llyfn gydag ychydig o halen a phupur. Cynheswch ychydig o olew (olew tsili os y'ch chi'n hoffi sbeis) yn yr un ffreipan a ddefnyddiwyd i wywo'r sbinaets. Yna ychwanegwch y puprod wedi'u rhostio, wedi eu torri, y passata a llond llwy fwrdd o siwgr neu fêl.
Ychwanegwch y pesto neu'r past tomato heulsych ac ychydig o halen. Arllwyswch y cyfan dros y sbinaets a'r feta. Gwnewch ddau dwll bach ar y gwaelod a thorri 2 wy i mewn iddyn nhw. Rhowch gaead ar y ffreipan i bobi yr wyau am 2 funud neu nes bod yr wyau wedi coginio fel ydych chi'n dymuno, yna tynnwch y ddysgl allan a briwsioni'r mymryn o gaws feta sy'n weddill dros ben y cyfan.
Addurnwch gyda phersli a sifys, pupur du, ychydig o fêl ac olew neu ddarnau tsili, os y'ch chi moyn.
Mwynhewch y shashuka gyda digonedd o dost crensiog.
Rysaít gan Colleen Ramsey (Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd).