Colleen Ramsey
calendar Dydd Mercher, 13 Rhagfyr 2023
Treiffl tiramisu
Cynhwysion
- 700ml llaeth
- rhin fanila
- 120g siwgr
- 30g blawd corn
- 30g powdr cwstard
- 4 ŵy
- bysedd spwng
- llwy fwrdd jam mefus neu mafon
- tin aeron cymysg neu mafon
- gwirodydd ceirios du (dewisol)
- siocled gwyn wedi gratio
- 300ml hufen
- 150g mascarpone
- 100ml surop fanila
- mafon fresh
- mafon wedi sychu (freeze dried)
Dull
- Chwisgiwch y siwgr gyda'r powdr cwstard a'r blawd corn. Ychwanegwch yr wyau a chymysgu nes bod y siwgr wedi toddi.Cynheswch y llaeth gyda'r fanila.
- Temprwch yr wyau gyda'r llaeth cynnes ac ychwanegu nôl i'r sosban gyda gweddill y llaeth.
- Chwisgwich am tua 5 munud gan sicrhau bod y cwstard yn dod i'r berw er mwyn coginio'r blawd. Rhowch naill ochr i oeri gan droi bob yn hyn a hyn.
- Gallwch roi 'cling film' ar ei ben i osgoi croen i ffurfio.
- Cynheswch lwy fwrdd o jam i ryddhau yn y ficro-don.Streiniwch y tun aeron cymysg neu fafon a chymysgu'r sudd gyda'r gwirodydd ceirios (dewisol).
- Sociwch y bysedd sbwng yn y sudd a chreu haenen o sbwng ar y gwaelod. Rhowch ychydig jam fan hyn a fan draw.
- Rhowch y cwstard ar ei ben, ychydig o'r siocled gwyn wedi gratio ac wedyn ail adrodd i greu haenau.
- Chwisgiwch yr hufen, mascarpone, fanila a'r surop fanila a'i rhoi fel haenen dop.
- Ychwanegwch y mafon ffres a'r mafon wedi sychu (wedi ei thorri i ddwst mewn prosesydd bwyd). Ysgeintiwch drosto.
Rysaít gan Colleen Ramsey (Nadolig Colleen Ramsey).
Instagram: @colleen_ramsey
Twitter: @_C_Ramsey
Sut i goginio
Copio
Wedi’i gopio