Colleen Ramsey
calendar Dydd Mercher, 13 Rhagfyr 2023
Wrap letys a phorc
Cynhwysion
- 200g briwgig porc
- modfedd o sinsir
- 3 ewyn garlleg
- 1 llwy de gronynnau garlleg
- 1 llwy de gronynnau winwns
- ychydig paprika
- pinsiad cayenne
- 1 llwy fwrdd olew olewydd
- 1 llwy de piwre tomato
- 1 llwy fwrdd caws hufenngo
- grawn bulgar (dewisol)
- letys 'Iceberg'
- 1 afal, wedi sleisio'n denau
- 1 moronen, wedi gratio
- llond llaw cnau wedi torri'n fân
Dull
- Cymysgwch y briwgig porc gyda'r sinsir, garlleg, gronynnau garlleg a winwns, paprika a chayenne.
- Ffriwch nhw tan yn brownio ac wedyn ychwanegu'r piwre tomato.
- Gallwch ychwanegu'r grawn bulgar fan hyn os dymunir a'r caws hufennog.
- Paratowch y dail 'Iceberg' a rhoi'r gymysgedd porc ynddo.
- Gweinwch gyda'r afal wedi sleisio, moron wedi gratio a'r cnau.
Rysaít gan Colleen Ramsey (Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd).
Instagram: @colleen_ramsey
Twitter: @_C_Ramsey
Sut i goginio
Copio
Wedi’i gopio