Colleen Ramsey
calendar Dydd Iau, 14 Rhagfyr 2023
Okonomiyaki
Cynhwysion
- bresych gwyn
- halen
- gronynnau winwns
- gronynnau garlleg
- 3 llwy fwrdd blawd plaen
- dŵr
- 1 wy
I'r 'Topin':
- eog wedi mygu
- darnau pysgod (flakes)
- siracha
- mayonnaise Siapaneiaidd
- shibwns
- afocado
Dull
- Gratiwch y bresych mewn i fowlen (neu defnyddiwch brosesydd bwyd) gyda'r gronynnau winwns a garlleg a'r halen.
- Rhowch y blawd a'r dŵr mewn bowlen i greu cytew.
- Ychwanegwch hwn i'r bresych gyda'r wy.
- Coginiwch fel pancws/crempog mewn padell ffrio am tua 2 funud bob ochr.
- Rhowch ar hambwrdd neu blât mawr ac ychwanegu'r 'topin'.
Rysaít gan Colleen Ramsey (Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd).
Instagram: @colleen_ramsey
Twitter: @_C_Ramsey
Sut i goginio
Copio
Wedi’i gopio