Colleen Ramsey
calendar Dydd Iau, 14 Rhagfyr 2023
Cyw iâr Gochujang
Cynhwysion
- 4 brest cyw iâr
- 2 lwy fwrdd iogwrt Groegaidd
- 1 llwy de gronynnod garlleg
- 1 llwy de gronynnod winwns
- 1 llwy de powdr tsili
- 1 llwy de paprika
- 1 llwy de pupur
- 1 llwy de halen
Bowlen neu fag o flawd corn gyda:
- 1 llwy de gronynnod garlleg
- 1 llwy de gronynnod winwns
- 1 llwy de powdr tsili
- 1 llwy de paprika
- 1 llwy de pupur
- 1 llwy de halen
- olew olewydd
- llwy fwrdd mawr gochujang
- llwy fwrdd siwgr brown
- llwy fwrdd mawr saws soy
- llwy fwrdd mel
- hadau sesame
- reis basmati
- garlleg
- stoc cyw iâr
Dull
- Torrwch eich cyw iâr yn ddarnau bach a chymysgwch gyda'r iogwrt a'r sbeis.
- Rhowch fewn i'r bag neu'r bowlen gyda blawd a'i osod ar blât neu mewn tun a'i osod mewn oergell i galedi.
- Golchwch y reis ac wedyn ffriwch yn y garlleg a'r stoc. Wedyn ei goginio yn araf yn y dŵr stoc.
- Mewn sosban gwenwch saws o'r gochujang, siwgr, soy a'r mêl.
- Ffriwch y cyw iâr tan yn grisp ac wedyn ei gymysgu yn y saws. Gweinwch ar ben y reis a hadau sesame.
Rysaít gan Colleen Ramsey (Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd).
Instagram: @colleen_ramsey
Twitter: @_C_Ramsey
Sut i goginio
Copio
Wedi’i gopio