Gadewch y tê i oeri a'i dywallt dros y ffrwythau tan fod y tê wedi anweddu a bod y ffrwyth yn ei amsugno.
Hufennwch y menyn, wy a hanner y blawd a'i gymysgu yn llwyr. Rhowch weddill y blawd a'i gymysgu.
Rhowch mewn tin torth wedi ei chwistrelli ag olew gyda phapur gwrthsaim ar y gwaelod a rhowch yn y popty ar 150 ffan am ryw 1 awr a hanner.
Ar ôl oeri, torrwch ar ei hyd deirgwaith ar ôl torri'r top i'w wneud yn fflat.
Trowch dwb o hufen ia sydd wedi toddi tipyn ar blât a ffurfio math o frechdan clwb mewn haenau. (Dw i'n defnyddio 'raspberry ripple' achos mae'r blasau yn gweithio. Rhowch ffilm yn y din torth a gosod y 'frechdan' i mewn, ei orchuddio a gadael yn yr oergell dros nos neu 4 awr o oleiaf.
Torrwch mewn i sleisys trwchus hyfryd a'i weini ar blât.
Rysaít gan Colleen Ramsey (Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd).