Cymysgwch y saws Marie Rose i'ch blas chi a'i rhoi ar ganol plât.
Torrwch yr eog yn ddarnau bach a'u rhoi mewn cylch metal.
Ychwanegwch y letys wedi darnio ac ychydig mwy o'r saws.
Ar y top, rhowch yr afocado wedi torri'n fân, ychydig sudd lemwn a'r corgimychiaid wedi sleisio yn hanner.
Rholiwch allan fara brown yn denau gyd pin rholio a thorri mewn i siapiau Nadoligaidd – hosan, cloch, coeden Nadolig. Tostiwch yn ysgafn (gril neu dostiwr).
Garneisiwch gydag ychydig ferw'r dŵr a syfi. Tynnwch y cylch metal i ddangos yr haenau a gweinwch gyda'r tost.
Rysaít gan Colleen Ramsey (Nadolig Colleen Ramsey).