Colleen Ramsey
calendar Dydd Iau, 14 Rhagfyr 2023
Parseli mêl a feta
Cynhwysion
- 6-7 dalen toes ffilo
- menyn wedi toddi
- caws feta
- mêl
- 1 ŵy
- hadau sesame wedi tostio
- cnau Ffrengig wedi torri'n fân
Dull
- .Cynheswch y popty i 185° (Ffan)
- Leiniwch dun pobi gyda phapur gwrthsaim
- Cymrwch 6-7 ddalen o'r toes ffilo a'i dorri yn hanner
- Brwsiwch y toes gyda'r menyn wedi toddi
- Torrwch y caws feta i giwbiau (maint llond ceg)
- Torrwch bob hanner o'r toes i stribedi digon llydan i lapio'r feta
- Rhowch y feta ynddo a'i lapio mewn i barsel
- Brwsiwch ychydig wy dros ei ben ac ysgeintio gyda'r hadau sesame a'r cnau Ffrengig
- Rhowch ar hambwrdd pobi ac yn y ffwrn am tua 15 munud.
- Arllwyswch digon o fêl drosodd cyn gweini
Rysaít gan Colleen Ramsey (Nadolig Colleen Ramsey).
Instagram: @colleen_ramsey
Twitter: @_C_Ramsey
Sut i goginio
Copio
Wedi’i gopio