Gofynnwch i'r cigydd am ddarn da o fol y mochyn fydd yn coginio'n gyfartal drosto.
Cymysgwch y 'rub' sbeis.
Rhwbiwch y sbeis dros fol y mochyn a rhoi ar hambwrdd neu blât. Sychwch y croen a'i adael heb orchudd yn yr oergell fel ei fod yn sychu allan. Gwnewch yn siŵr mai ochr y croen sydd lan.
Gwnewch hambwrdd o ffoil gan orchuddio'r cig ond gadael y croen allan. Sgoriwch gyda chyllell finiog a brwsio gyda finegr seidr.
Gorchuddiwch gyda halen mor neu 'rock salt.'
Coginiwch am awr ar dymheredd o 180.
Gwaredwch yr halen a brwsio unwaith eto gyda'r finegr.
Trowch y popty i'r gwres uchaf – tua 250 fel arfer, a rhoi'r cig nôl am ½ awr.
Gwnewch yn siŵr fod y 'crackling' yn crisp a gadael i orffwys cyn sleisio.
Gweinwch gyda thatws rwtsh 'champ,' sef gyda shibwns a sbigoglys.
I'r saws:
Toddwch lwy fwrdd o fenyn mewn padell a ffrio ychydig afal coch ar wres uchel am tua munud. Ychwanegwch y mêl. Tra bod y gwres yn uchel, ychwanegwch fotel o seidr a gadael i fudferwi nes bod y saws wedi lleihau.
Ychwanegwch yr hufen a chynhesu drwyddo tan fod y saws yn ddigon trwchus i orchuddio cefn llwy.
Gweinwch a mwynhewch.
Rysaít gan Colleen Ramsey (Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd).