Leiniwch dun pobi dwfn gyda'r toes parod. Gwnewch dyllau bach gyda fforc. Ychwanegwch y papur gwrthsaim a'r ffa pobi neu reis a phobi'n ddall nes bod y toes wedi coginio.
Tynnwch y ffa/reis a rhoi naill ochr i oeri. Ffriwch eich cennin mewn menyn a seisnwch yn dda gyda halen a phupur. Rhowch naill ochr i oeri.
Heinwch hanner y pei gyda'r cennin a'r ham hock a'r hanner arall gyda'r 2 gaws. Rhoch eich tato pwtsh cawslyd mewn sach beipio a rhoi haenen dros y cennin a'r ham. Ail adroddwch yr haenau.
Rhowch y caead toes ar ei ben. Brwsiwch gydag wy a phobi am tua 20 munud nes bod y toes yn euraidd. Gadewch i'r pei oeri i dymheredd yr ystafell cyn gweini.
Rysaít gan Colleen Ramsey (Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd).