1 myg reis basmati (neu digon i orchuddio gwaelod y bocs/hambwrdd byddwch chi'n defnyddio)
1 llwy fwrdd mirin
½ llwy fwrdd finegr gwin reis
olew i ffrio
madarch cymysg
½ cwpan bach gwin marsala
4 llwy fwrdd hufen dwbl
syfi ffres
taragon ffres
Dull
Golchwch eich reis Basmati tan fod y dŵr yn rhedeg yn glir. Coginiwch am 10 munud. Dreiniwch ac wedyn cymysgu gyda'r finegr gwin gwyn, mirin a halen. Gwasgwch i hambwrdd wedi leinio gyda phapur ffilm.
Rhowch hambwrdd arall ar ei ben i wasgu a chadw yn yr oergell am ychydig oriau.
Mewn padell, ffriwch y madarch (heb olew) ac wedyn ychwanegu ychydig fenyn a seisnwch. Ar wres uchel, ychwanegwch y gwin Marsala a choginio am 30 eiliad cyn ychwanegu'r hufen.
Gadwch i'r hufen dewhau ychydig ac wedyn rhoi naill ochr i oeri am ychydig.
Cynheswch olew maen padell a ffrio eich reis – gallwch ei dorri i ba bynnag siâp y dymunwch. Pan fod yn euraidd, tynnwch a'i rhoi ar bapur cegin i waredu'r olew.
Rhowch y gymysgedd madarch ar ben y reis ac ysgeintio gyda'r taragon a syfi ffres i weini.
Syniad: Gallwch wneud un mawr a rhoi'r llenwad mewn powlen neu wneud lot o ddarnau bach a rhannu fel dechreu-fwyd gyda ffrindiau.
Rysaít gan Colleen Ramsey (Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd).