Torrwch ddau driongl o'r toes pwff a'i rhoi ar hambwrdd pobi wedi leinio gyda phapur gwrthsaim. Wedyn rhowch haenen arall o bapur gwrthsaim ar ei ben a hambwrdd arall ar gyfer ei bwyso lawr. Pobwch fel hyn am 15 munud ac wedyn tynnu'r hambwrdd a'r papur ar y top. Pobwch nes yn euraidd am 5-8 munud.
Gadewch i oeri'n gyfan gwbl.
Yn y cyfamser, pliciwch eich afalau a thorri'n sgwariau bach. Ychwanegwch ychydig ddŵr a sudd lemwn. Cynheswch mewn sosban gyda'r siwgr caster a'i leihau. Defnyddiwch bwtshwr tato i wneud cymysgedd debyg i saws afal/piwre.
Gadewch i oeri.
I wneud y cwstard, cynheswch y llaeth, fanila a'r sinamon. Mewn sosban arall, rhowch y powdr cwstard, blawd, siwgr a'r 4 wy a chwisgio nes bod popeth wedi toddi.
Pam fod y llaeth bron a berwi, rhowch e (1 x ladle ar y tro) mewn i'r gymysgedd wy gan gadw i chwisgio.
Rhowch y cyfan yn ôl i 1 sosban a chadw i chwisgio ar dymheredd canolig/uchel nes bod y blawd corn wedi coginio allan – tua 2-3 munud.
Gadewch i oeri ac yna ei rhoi mewn bag peipio.
Heiniwch y gymysgedd afal ar eich toes pwff, wedyn y cwstard, rhowch y caead arno a rhoi yn yr oergell gyda hambwrdd ar y top.
Cymysgwch 150g o siwgr eisin gydag ychydig ddŵr a'i ledu ar dop y toes. Oerwch.
Gweinwch gyda'r afalau sych (freeze dried) ac ychydig o liw bwyd os dymunwch am addurn ychwanegol.
Rysaít gan Colleen Ramsey (Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd).