Marinadwch y ffiledau eog gyda'r garlleg wedi gratio, sinsir olew olewydd.
Rhowch y grawn Bulgar mewn powlen fetel a gorchuddio hyd ½ modfedd uwch ei ben gyda'r stoc llysiau. Gorchuddiwch a rhoi i'r naill ochr am ¼ awr.
Griliwch yr eog am 8 munud.
Rhowch fforc drwy'r grawn Bulgar i'w rhyddhau ac ychwanegu ychydig saws soy i'ch blas chi.
Darniwch yr eog, rhowch yr hadau sesame, afocado a'r ciwcwmber ar ei ben. Ychwanegwch y moron wedi gratio am ychydig liw. Rhowch y kimchi ac ychydig mayonnaise siracha i'ch blas chi ar ei ben.
Gweinwch ar ddalennau Nori.
Rysaít gan Colleen Ramsey (Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd).