Sleisiwch y winwns a'r pupur a chymysgwch gyda'r briwgig eidion a'r holl sbeis.
Gadewch i farineiddio am tua 20 munud - dros nos yn ddelfrydol.
Ffriwch ar wres uchel a sesno'n dda gyda halen.
Ychwanegwch bupur cayenne a tsili os hoffech ychydig o gic, ond ni'n bwydo'r plant felly ni'n ei hepgor.
Rhowch ychydig olew ar ddwy ochr y tortilla a'i rhoi ben i waered ar ramekin, a'i ddal mewn lle gyda ffoil. Pobwch am 170° am 15 munud, wedyn, tynnwch allan a phobi eto am 15 munud ar 170°. Wedyn tynnwch y ffoil a phobi am 5 munud ar 180°. Gadewch i oeri.
Paratowch eich addurn tra bod y tortilla yn pobi a gweini sut bynnag yr hoffech – byddwch yn greadigol!
Rysaít gan Colleen Ramsey (Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd).