Ffriwch y ddwy gig gyda'i gilydd mewn ychydig olew nes wedi brownio. Rhowch mewn powlen ac arllwyswch eich stoc drosodd i gadw'r cig yn wlyb. Bydd y cig yn amsugno blas y stoc. Rhowch i'r dail ochr.
Torrwch eich moron, winwns a seleri yn fân a'i ffrio yn ysgafn ar wres isel nes wedi meddalu: 10-15 munud.
Yn y cyfamser, paratowch eich llaeth i wneud y bechamel. Rhowch eich llaeth, dail llawryf, saets sych, gronynnau pupur du a ½ winwnsyn mewn sosban a gadael i'r blasau gymysgu ar wres isel am tua 10 munud.
Unwaith mae eich llysiau wedi meddalu, ychwanegwch eich past tomato i'r llysiau a choginio am tua munud.
Ychwanegwch eich cymysgedd cig a stoc i'r llysiau a'r tomato. Ychwanegwch eich sinamon a dail llawryf. Cymysgwch yn dda a gadael i goginio am awr dros wres isel (ma' 20 munud yn ddigon os chi'n brin o amser ond ma' awr yn well).
I wneud y bechamel:
Toddwch y menyn mewn sosban, ychwanegwch y blawd. Ychwanegwch y llaeth ychydig ar y tro. Ychwanegwch eich caws a gadael iddo doddi mewn i'r saws. Sesnwch i flasu.
Coginiwch eich pasta am tua 7 munud – angen iddo aros ychydig yn galed yn lle ei fod yn torri.
Rhowch ychydig o'r gymysgedd cig a bechamel ar eich pasta a chymysgu. Adeiladwch eich Pastitsio. Rhowch y pasta ar waelod eich dysgl, wedyn y saws cig (cofiwch dynnu'r dail llawryf a'r sinamon allan) ac yna'r bechamel.
Gratiwch ychydig o barmesan dros y top ac yna coginio yn y popty ar 170° am tua 40 munud.
Gadewch i setlo cyn gweini gyda salad gwyrdd.
Rysaít gan Colleen Ramsey (Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd).