Torrwch y llysiau i gyd a thorri 5 cylch pinafal mewn i giwbiau. Cadwch y sudd. Cymysgwch y siwgr brown, sos coch, mirin a saws soi mewn i'r sudd y binafal.
Ffriwch y binafal nes ei fod wedi carameleiddio ychydig. Ffriwch weddill y llysiau a ychwanegwch halen i'ch blas.
Arllwyswch y sudd at y blawd corn a 2 lwy fwrdd o ddŵr oer i wneud cymysgedd eithaf trwchus.
Gadewch i'r saws dewhau ac wedyn dewch ag ef i'r berw. Wedyn, trowch lawr i wres is ac ychwanegu'r penfras.
Gorchuddiwch gyda chaead a choginio am tua 3 munud.
Gweinwch yn syth gyda reis, coriander a sleis o leim.
Rysaít gan Colleen Ramsey (Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd).