2 bupur wedi rhostio (wedi eu prynu) a'i torri'n gwrs
½ jar passata
1 ciwb stoc ffowlyn cyfan neu giwb stoc llysiau jeli
halen a phupur
Dull
Cynheswch y garlleg a'r olew olewydd dros wres isel am funud, ac wedyn ychwanegu'r puprod.
Coginiwch am 2 funud wedyn ychwanegu'r passata a'r ciwb stoc jeli.
Trowch y gwres i fyny a dod ag ef i'r berw, wedyn trowch y gwres lawr yn is am tua 5 munud. Blitsiwch gyda blender llaw ac ychwanegu halen a phupur i flasu
Cadwch ddŵr y pasta pan fyddwch chi'n ei ferwi. Arllwyswch y saws dros eich pasta gydag ychydig o'r dŵr sydd dros ben.
Gweinwch gydag ychydig gaws Parmesan ffres a dail basil.
Rysaít gan Colleen Ramsey (Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd).