S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

  • Colleen Ramsey

    Colleen Ramsey

    calendar Dydd Mawrth, 10 Rhagfyr 2024

  • Stêc Chimichurri

    Cynhwysion

    • stêc
    • persli
    • pupur coch
    • garlleg
    • finegr gwin coch
    • mêl
    • olew olewydd
    • oregano
    • sialot
    • pupur cayenne

    Dull

    1. Tynnwch y stêc allan o'r oergell a chyrraedd tymheredd yr ystafell am 30-40 munud. Olewch y stêcs ar y ddwy ochr.
    2. Cymerwch badell at dymheredd poeth yna seriwch y stecen am 1 munud ac yna trowch y tymheredd i lawr i ganolig a choginiwch am 2 funud.
    3. Trowch hi a halenwch y stêc trowch y tymheredd i fyny a seriwch am 1 munud. Trowch y tymheredd i ganolig a choginiwch am 2 funud.
    4. Nawr rhowch lond llwy fwrdd o fenyn, gyda pherlysiau a garlleg os dymunwch, yna basiwch y stêc. Gadewch i orffwys ar blât cynnes neu mewn parsel ffoil am 5-6 munud.
    5. Os yw eich stêc yn deneuach, cwtogwch yr amser coginio.
    6. Ar gyfer y chimichurri torrwch y pupur, y persli, yr oregano a'r sialots, yn fân, minsiwch y garlleg. Nawr ychwanegwch olew a finegr nes ei fod yn saws a all ddisgyn oddi ar lwy. Ychwanegwch y cayenne a'r mêl i flasu.
    7. Gweinwch gyda rhywfaint o datws newydd neu beth bynnag y dymunwch.

    Rysaít gan Colleen Ramsey (Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd).

    Instagram: @colleen_ramsey

      Rhannu’r rysáit
      close button

      Rhannu’r rysáit trwy:

      Copio’r ddolen

      copy icon
      Sut i goginio
      Copio
      Wedi’i gopio
    Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?