Torrwch y winwns yn fras a'u berwi mewn 300ml o ddŵr nes bod y dŵr wedi anweddu/diflannu.
Ffriwch gyda'r garlleg a'r sinsir wedi torri'n fras a'r ghee am 10 munud.
Ychwanegwch y piwre tomato a choginio am funud arall cyn ychwanegu eich sbeis i gyd.
Ffriwch am ychydig eiliadau eto ac wedyn ychwanegu'r 550ml o ddŵr.
Mudferwch am ychydig funudau cyn blitzio.
Rhowch mewn ciwbiau mewn 'tray' iâ a'u rhewi nes yn barod i'w defnyddio.
I greu korma:
2 x brest cyw iâr mewn ciwbiau bach
4 llwy fwrdd o iogwrt Groegaidd llawn braster
Cymysgwch mewn powlen gan ddefnyddio'r un sbeisys a'r un faint â'r sylfaen cyri a 4 llwy fwrdd o iogwrt. Marineiddiwch y cyw iâr am 20 munud neu gorau po hiraf sydd gennych.
Rhowch y darnau cyw iâr o dan y gril am tua 5 munud.
Ychwanegwch lysiau i'r badell ar wres uchel.
Ychwanegwch eich ciwbiau cyri iâ i'r badell ar wres isel fel eu bod yn toddi.
Unwaith wedi toddi, ychwanegwch dun o laeth cneuen goco a ½ bloc o hufen cneuen goco (neu ½ tun o hufen cneuen goco) gyda'r ffowlyn, ynghyd ag almonau mâl.
Mudferwch am tua 3 munud a gweini gyda reis, ychydig hufen dwbl ar ei ben ac addurno gyda phersli a haenau o almonau wedi'u tostio.
Rysaít gan Colleen Ramsey (Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd).