S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

  • Colleen Ramsey

    Colleen Ramsey

    calendar Dydd Mawrth, 10 Rhagfyr 2024

  • Cig eidion

    Cynhwysion

    • asennau cig eidion (ma' faint chi angen yn dibynnu ar faint chi eisiau rhag-baratoi. Ar gyfer y rhaglen, roedd gen i 3k ac fe wnes i rhannu mewn i 3 pryd).
    • blawd – digon i orchuddio'r asennau
    • halen a phupur
    • olew hâd rêp
    • 3 stoc eidion jeli
    • 1 deilen llawryf
    • 2 bouqet garni
    • 1 winwnsyn
    • 1 coes seleri
    • blawd corn

    I weini:

    • tatws pwtsh (tatws Maris Piper, ychydig o fenyn, ychydig o laeth)
    • moronen neu ddwy

    Dull

    1. Rhowch y blawd mewn bag gydag ychydig halen a phupur. Rhowch eich cig yn y gymysgedd blawd a'i orchuddio.
    2. Rhowch ychydig olew mewn padell ar wres uchel a ffrio'r asennau 1-2 ar y tro am tua munud bob ochr.
    3. Unwaith wedi brownio, rhowch mewn hambwrdd pobi dwfn, ychwanegu winwnsyn, seleri, bouqet garni, deilen llawryf a'r stoc i tua ¾ ffordd lan y tun, gorchuddiwch gyda ffoil a rhoi yn y popty ar 160° am 4 awr.
    4. Ar ôl 4 awr, tynnwch o'r popty ac yna tynnu'r cig oddi ar yr asgwrn. Gwaredwch yr asgwrn ac unrhyw fraster (sinew).
    5. Tynnwch y dail llawryf a'r bouqet garni allan o'r saws ac yna blitziwch y saws i wneud y grefi.
    6. Arllwyswch eich saws dros y cig a chymysgu. Gallwch wahanu mewn i batches wedyn ar gyfer mynd i'r oergell.

    Rysaít gan Colleen Ramsey (Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd).

    Instagram: @colleen_ramsey

      Rhannu’r rysáit
      close button

      Rhannu’r rysáit trwy:

      Copio’r ddolen

      copy icon
      Sut i goginio
      Copio
      Wedi’i gopio
    Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?