Leiniwch eich tuniau panna cotta gydag olew cneuen goco
Rhowch eich siwgr, hufen a fanila mewn sosban a'i dwymo, cadwch i droi nes bod y siwgr i gyd wedi toddi.
Ychwanegwch y dail gelatin wedi eu meddalu mewn dŵr oer a chadw i fudferwi nes wedi toddi.
Arllwyswch mewn i'r tuniau ac wedyn rhoi yn yr oergell am 5 awr i setio neu dros nos.
Tynnwch y mowldiau allan o'r oergell, cynheswch ychydig o ddŵr poeth, ysgwyddwch i'w lacio ac yna dal ychydig uwchben plât a gadewch iddo ddisgyn i'r plât.
Rysaít gan Colleen Ramsey (Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd).