Toddwch eich menyn mewn sosban ac ychwanegu'r blawd i greu roux.
Ychwanegwch y llaeth gan gadw i droi/chwisgio i gael cymysgedd llyfn ac yna troi'r gwres lawr.
Gratiwch eich pecorino mewn i'r hylif – fe wnaiff y gymysgedd dewhau wrth oeri.
Tostiwch eich pupur du cyfan mewn padell ffrio ac yna eu malu gyda phestl a mortar cyn ychwanegu i'r saws caws.
Rhowch yn yr oergell i dewhau nes eich bod yn barod i lenwi eich pasta.
I'r pasta:
Craciwch un melyn ŵy a dau ŵy cyfan a'u cyfuno gyda'r blawd, halen ac olew olewydd mewn cymysgydd bwyd gyda bachyn toes.
Unwaith ei fod mewn pelen o does, rhowch ar arwyneb gwastad â blawd arno a'i weithio a'i dylino nes y gallwch roi bawd ynddo a'i fod yn bownsio'n ôl.
Rhowch y toes pasta yn yr oergell am 4-5 awr.
Nawr gallwch chi roi'r pasta mewn peiriant pasta gan ddechrau gydag ef mewn siâp hirsgwar fflat.
Dechreuwch ar osodiad mwyaf trwchus y peiriant 1 a gweithio i lawr i'r gosodiad teneuach 6 (Mae peiriannau'n amrywio)
Rhowch y pasta ar arwyneb mawr â blawd arno ychwanegu llwyaid o lenwad ynghyd â digon o le o gwmpas. Rhowch y pasta drosodd a chwpanwch y llenwad i dynnu'r aer. Torrwch nhw gyda thorrwr fel pasteiod bach, rhowch y llenwad ar eu gwaelod a phinsiwch gyda'i gilydd. Mae'n bwysig i'r pasta allu eistedd yn syth ar y gwaelod er mwyn cyflwyniad.
I'r saws:
Torrwch y winwns a'r garlleg a'i ffrio yn ysgafn. Ychwanegwch y tun tomatos bach. Gadewch i goginio nes bod y saws wedi tewhau.
Unwaith ma'r saws wedi tewhau, blitziwch y saws gyda phrosesydd llaw ac yna ychwanegu ychydig o fêl a halen i flasu.
I'w gweini:
Berwch siapiau pasta mewn dŵr berw am 3 munud.
Gweinwch gyda saws ar waelod y plât ac yna parmesan wedi'i gratio ar ei ben ac efallai ychydig o ddail basil wedi'u ffrio neu ffres i gael lliw ychwanegol a chrensh.
Rysaít gan Colleen Ramsey (Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd).