Myffins
Cynhwysion
- 220g blawd plaen
- 1 llwy de powdr pobi
- 1 llwy de bicarbonate soda
- 1 llwy de sinamon
- 180g siwgr mân
- 180g ffrwythau ffres
- 130ml llaeth enwyn
- 1 llwy de fanila
- 1 ŵy
- 30ml olew llysiau
- 50g menyn
- blawd plaen
- siwgr mân
- 25g ceirch a chnau
Dull
- Cynheswch y popty ymlaen llaw i 200 ffan.
- Gwnewch y top crymbl trwy rwbio'r menyn a'r blawd gyda'i gilydd i ffurfio briwsion bara, yna ychwanegu ceirch, siwgr a chnau wedi'u torri. Gosod i un ochr.
- Torrwch y ffrwythau (os yn fawr) a'u hychwanegu at y blawd.
- Cymysgwch y powdr pobi, bicarb, sinamon a siwgr gyda'i gilydd mewn powlen fawr.
- Cymysgwch y cyfan yna ychwanegwch y blawd a'r ffrwythau a chymysgwch yn dda.
- Mewn jwg chwisgwch yr wy gyda'r olew fanila a'r llaeth enwyn.
- Ychwanegu cynhwysion gwlyb i'r bowlen, a llwy i mewn i gasys 3/4 llawn.
- Rhowch crymbl ar ei ben a'i bobi am 15-20 munud.
Rysáit gan Michelle Evans-Fecci, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.
Instagram: @bakesbymichelle
Twitter: @bakesbymichelle