S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Brechdanau cwci

Cynhwysion

Ar gyfer y crymbl ceirch:

  • ½ llwy de sinamon
  • 214g blawd plaen
  • 108g ceirch
  • 100g siwgr brown
  • 125g siwgr demerara
  • 125g menyn
  • pinsiad halen

Ar gyfer y toes:

  • 300g menyn hallt
  • 100g siwgr mân
  • 210g siwgr brown
  • 40g siwgr demerara
  • 2 ŵy
  • 430g blawd plaen
  • 1 llwy de bicarb
  • 70g ceirch
  • 1 llwy de sinamon
  • ½ llwy de sbeis cymysg

Ar gyfer y compot afalau:

  • 2 afal
  • 25g menyn
  • 40g siwgr brown
  • ¼ llwy de sinamon

Hufen menyn:

  • 250g halen
  • 250g siwgr eisin
  • 1 llwy de sinamon
  • ½ llwy de sbeis cymysg
  • 30ml llaeth

Dull

Yn gyntaf gwnewch y crymbl ceirch:

  • Cyfuno cynhwysion sych
  • Cymysgwch yn araf mewn menyn wedi'i doddi
  • Pobwch ar 170 am 5-10 nes yn euraidd

Yna gwnewch y toes cwci:

  1. Hufenwch menyn a siwgrau nes eu bod yn ysgafn a blewog, crafwch y bowlen ychydig o weithiau
  2. Ychwanegwch wyau
  3. Mewn powlen ar wahân cyfunwch yr holl gynhwysion sych
  4. Ychwanegwch y cymysgedd sych yn araf i'r cymysgedd menyn a'i gymysgu nes ei fod wedi'i gyfuno
  5. Rholiwch yn beli 70-75g, yna gorchuddiwch â chrymbl ceirch. Oerwch yn yr oergell neu'r rhewgell nes ei fod yn barod i'w bobi
  6. Pobwch ar 155 am 8 munud, gwasgwch, yna pobwch eto am 8 munud arall.
  7. Siâp gyda thorrwr crwn ar ôl ei bobi

Yna gwnewch y compote afal:

  1. Torrwch afalau yn ddarnau bach
  2. Toddwch bwlyn bach o fenyn mewn padell gydag ychydig bach o siwgr brown
  3. Ychwanegu afalau a sinamon a'u coginio nes yn feddal

Yna gwnewch yr hufen menyn:

  1. Curwch y menyn nes ei fod yn blewog ac yn welw ei liw
  2. Ychwanegwch y siwgr eisin yn araf
  3. Ychwanegwch y sbeisys i mewn
  4. Arllwyswch y llaeth
  5. Curwch ar gyflymder canolig nes yn llyfn

Rysáit gan Gareth Davies, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?