S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Cacen mewn cwpan

Blas fanila

Cynhwysion

  • 25g menyn
  • 35g siwgr castir
  • fanila
  • 45g blawd codi
  • 45ml llaeth
  • 1 oren
  • 1 llwy de jam
  • hufen ia/hufen/ffrwyth/'sprinkles' i addurno

Dull

  1. Toddwch y menyn mewn powlen, ychwanegwch siwgr, fanila, blawd, llaeth a chroen oren a chymysgwch yn dda.
  2. Arllwyswch i mewn i mwg.
  3. Microdon am 1-2 funud yn edrych arno bob 30 eiliad.
  4. Tynnwch ychydig o'r canol allan a'i lenwi â jam.
  5. Rhowch hufen chwipio a ffrwythau ar ei ben.

Blas siocled

Cynhwysion

  • 30g blawd plaen
  • 50g siwgr castir
  • 15g powdr coco
  • 55ml dŵr
  • 30ml olew llysiau
  • fanila
  • 60g darnau siocled
  • hufen iâ / hufen
  • siocled i addurno

Dull

  1. Cymysgwch y blawd, siwgr, powdwr coco, dŵr, olew a fanila gyda'i gilydd a chymysgu'n dda. Ychwanegwch y darnau siocled a'i arllwys i mewn i'r mwg.
  2. Microdon am 1-2 funud yn cofio i edrych arno bob 30 eiliad.
  3. Addurnwch gyda hufen iâ/hufen ac ychydig o siocled wedi'i gratio.

Rysáit gan Michelle Evans-Fecci, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

Instagram: @bakesbymichelle

Twitter: @bakesbymichelle

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?