S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Crème brulee bara brith

Cynhwysion

  • 500ml hufen dwbl
  • 150g siwgr castir
  • 1 pod fanila
  • 5 melynwy
  • 1 bara brith
  • 50g siwgr castir

Dull

  1. Cynheswch y ffwrn i 120°c.
  2. Cyfunwch yr hufen, siwgr, fanila a melynwy mewn bowlen fawr. Cymysgwch yn drylwyr.
  3. Torrwch y bara brith mewn i giwbiau bach, yna gosodwch nhw mewn bowlenni bach.
  4. Arllwyswch y cymysgedd hufen dros y bara brith nes mae'r bowlenni ¾ llawn.
  5. Gadwch i eistedd am 30 munud i adael y bara brith amsugno'r hufen.
  6. Gosodwch y bowlenni bach mewn dysgl ddofn, yna ychwanegwch dŵr i waelod y ddysgl i greu "bain marie".
  7. Pobwch am 30 munud nes iddo setio.
  8. Unwaith mae wedi coginio, gosodwch nhw yn yr oergell.
  9. I weini, dystiwch efo tamaid o siwgr castir a carameleiddiwch gan ddefnyddio "blow torch" neu gril twym.

Rysáit gan Dan ap Geraint, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?