S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Brechdan stêc 6 gwlad

Cynhwysion

  • stecen Aberdeen Angus
  • madarch
  • winwns coch
  • bara panini
  • fflecs tsili
  • caws per las
  • letys
  • berwr y dŵr (watercress)

Ar gyfer y dresin

  • 2 lwy fwrdd mayo
  • tabasco
  • 1 llwy de mwstard dijon
  • 1 llwy fwrdd lea a perrin

Dull

  1. Torrwch y bara panini a arllwyswch ychydig o olew olewydd arno, adiwch tamed o halen a phupur a fflecs tsili os chi'n hoffi tamed o sbeis.
  2. Sesnwch y stecen efo olew, halen a phupur.
  3. Gwaredwch "stalks" y madarch yna gosodwch nhw ar y gril.
  4. Sleisiwch y winwns mewn i ddarnau 1cm, gosodwch nhw ar y gril.
  5. Tra bod popeth yn coginio, wnewch saws / dresin am y frechdan.
  6. I haenu'r frechdan, gwasgarwch saws ar y bara, ychwanegwch letys a watercress.
  7. Ychwanegwch y dresin, winwns a madarch.
  8. Tynnwch y stecen oddi wrth y gril a gadwch am ychydig. Torrwch y stecen ac ychwanegwch i'r frechdan. Adiwch halen a phupur, yna darnau o gaws per las.
  9. Gorchuddiwch efo bara yna mwynhewch!

Rysáit gan Lisa Fearn, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

Instagram: @lisafearncooks

Twitter: @lisaannefearn

Ryseitiau Prynhawn Da

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?