S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Rarebit porc

Cynhwysion

  • 2 darn porc
  • 2 lwy de mwstard cyflawn
  • 50g caws cheddar
  • 1 llwy fwrdd o crème fraiche
  • 500g tatws cwyraidd
  • 2 lwy fwrdd olew olewydd
  • sudd o 1 lemwn
  • rhosmari

Dull

  1. Cynheswch yr olew mewn ffrimpan a lliwiwch y darn porc yn frown. Nid ydych yn coginio'r chop nawr, ond yn wneud yn siŵr mae'r braster wedi lliwio.
  2. Rhowch y darn o borc yn erbyn y ffrimpan ar yr ochr fwyaf "fatty".
  3. Symudwch y darnau draw i lestr ffwrn isel. Coginiwch am 15 munud yn y ffwrn.
  4. Cymysgwch y mwstard, caws a crème fraiche at ei gilydd. Gwasgarwch ar draws y darnau o gig.
  5. Rhowch nhw nôl yn y ffwrn a, 5 munud nes i'r rarebit doddi a throi'n euraidd.
  6. I wneud y tatws, gwaredwch y croen a thorrwch mewn i "wedges". Gosodwch nhw yn sosban gyda dŵr hallt.
  7. Coginiwch am tua 5 munud. Draeniwch i ffwrdd y dŵr a siglwch y tatws yn drylwyr.
  8. Mewn tun pobi, gosodwch yr olew, sudd lemwn a rhosmari.
  9. Gadwch y tatws yn yr olew am 10 munud cyn pobi nhw am 20-30 munud.

Rysáit gan Catrin Thomas, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

Ryseitiau Prynhawn Da

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?