Addasiad a dehongliad llwyfan newydd ac uchelgeisiol o stori a sioe eiconig Nia Ben Aur, wedi ei lwyfannu ym Mhafiliwn yr Eisteddfod, gyda sgript newydd gan fardd plant Cymru, Nia Morais, a threfniannau cerddorol gan Patrick Rimes a Sam Humphreys (Calan). Côr mawr yr Eisteddfod fydd yn gefnlen cerddorol i'r sioe. Cawn ddylanwadau gwerin Cymreig, Gwyddelig a Llydewig, ynghyd ag elfen fwy electro, a chawn fwynhau caneuon tebyg i anthem Nia Ben Aur, Brenin Ri, Cwsg Osian, Ffa La La, ac eraill.
Mae Only Boys Aloud yn dathlu Nadolig a dros ddegawd o lwyddiant cerddorol gyda chyngerdd mawreddog yng nghadeirlan Aberhonddu. Bydd y bechgyn yn ymuno ag Only Girls Aloud ac Only Kids Aloud i ganu clasuron Nadolig yn ogystal â chaneuon cyfoes, yng nghwmni'r sêr: Callum Scott Howells, Rebecca Evans, Amy Wadge a Tom Hier.
Rhaglen arbennig sy'n cyfuno traddodiadau cerddorol yr Ariannin a Chymru mewn rhaglen o ddathlu a mawl. Bydd Jose Cura, y seren denor, yn ymuno â chorau'r cymunedau Cymreig ym Mhatagonia i berfformio Misa Criolla a Navidad Nuestra mewn cyngerdd awyr agored ynghanol gwres haf y Wladfa. Mae rhythmau gwerin hudolus De America a delweddau trawiadol y paith yn cyfuno i ddatgelu gwyrth y Geni mewn ffordd wahanol iawn.