Mwy o gynnwys i chi ffans rygbi ar S4C Clic
Ar ddechrau Cwpan Rygbi'r byd, ymunwch â Jonathan Davies, Nigel Owens a Sarra Elgan wythnos yma wrth iddynt ddychwelyd ar gyfer pennod hwyliog arall o 'Jonathan', wrth i gewri Warren Gatland baratoi i wynebu Fiji. Bydd sgetsys di-ri, sialensiau corfforol a sgwrs gyda dau o enwogion Cymru. Yr wythnos yma, Rhys Priestland a'r gantores Jessica Robinson sy'n twymo'r sofa goch ac yn cystadlu'n frwd wrth fynd Ar y Pyst.
Mae cyn-asgellwyr Cymru, Shane Williams ac Ieuan Evans ar 'Road trip' unwaith eto. Y tro yma i Ffrainc, i ymweld â'r dinasoedd fydd yn cynnal gemau Cwpan Rygbi'r byd 2023. Yn y bennod hon fydd y ddau yn ymweld â dinasoedd Lille yn y Gogledd, a Nantes yn y Gorllewin.
Ail-ddarllediad ar drothwy Cwpan Rygbi'r Byd. Pan gyhoeddodd Steve Hansen ei fod am drawsnewid tîm Cymru cyn iddynt wynebu'r Crysau Duon cyn gêm dyngedfenol yng ngrwp D yn Sydney, doedd neb yn disgwyl perfformiad y byddai'n gweddnewid rygbi Cymru am flynyddoedd i ddod.
Mewn cyfres newydd sbon daw mawrion a chefnogwyr rygbi Cymru ynghyd i adrodd hanes tanllyd y gêm o 1875 hyd heddi gyda Syr Gareth Edwards, Ieuan Evans, Shane Williams, Beti George, Sioned Harries a Huw Llywelyn Davies yn rhannu straeon personol am ddylanwad y gamp ar eu bywydau. Bydd sylw i oes aur cyntaf rygbi Cymru gyda buddugoliaeth yn erbyn y Crysau Duon yn 1905 a'r dorf yn canu Mae Hen Wlad fy Nhadau cyn y gêm am y tro cyntaf erioed.
Am y tro cyntaf erioed, mae timau rygbi'r dynion a menywod yn cystadlu yn Mhencampwriaeth Rygbi Byddar y Byd yn yr Ariannin. Er iddynt wynebu heriau, ar ac oddi ar y cae, roedd Rygbi Byddar Cymru yn benderfynol o oresgyn yr anawsterau a dychwelyd adref fel Pencampwyr dwbwl Cwpan y Byd.
Ewch i s4c.cymru/clic/MyS4C/SignUp ble mae'n bosib creu cyfrif newydd mewn 2 cam syml.
1. Yn gyntaf, rhowch eich enw i mewn, gyda'ch cyfeiriad e-bost a dewis cyfrinair.
2. Wedyn, bydd angen dewis eich iaith, yn ogystal â chytuno â thelerau S4C. Gwasgwch y botwm 'Cofrestru' a chi'n barod i wylio cynnwys ar S4C Clic!