Mae Undeb Rygbi Cymru yn chwilio am 12 prentis newydd yn dilyn llwyddiant y cynllun cyntaf, llynedd. Lansiwyd Prentisiaeth Hyfforddi Sylfaenol URC gan Ddug Caergrawnt yn yr Hydref ac mae'r grwp cyntaf eisoes wedi datblygu eu gyrfaoedd mewn meysydd chwaraeon ac addysg.
Mae lle nawr ar gyfer 12 person arall i ymuno a'r cynllun bydd yn ehangu eleni i ardal y Gweilch yn ogystal ag ardaloedd y Gleision a'r Dreigiau. Daw'r gefnogaeth i'r prentisiaid newydd gan swyddogion datblygu'r Undeb. Rhaid i'r ymgeiswyr fod rhwng 18 a 24 oed ac yn frwdfrydig i weithio gyda phobl ifanc yn y byd chwaraeon o fewn eu cymunedau. Ar ddiwedd y cyfnod bydd gan y prentisiaid cymwysder NVQ lefel3 bydd yn cael ei weinyddu gan Goleg Castell Nedd Port Talbot ac yn derbyn cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru.
Dyweodd rheolwr y cynllun Hyfforddi Sylfaenol Carl Scales " Mae'r prentisiaid ifanc wedi datblygu'n aruthrol yn ystod y 10 mis diwetha ac mae ganddyn nhw gyfeiriad pendant i'w gyrfaoedd yn ogystal a sgiliau cyfathrebu da" Bydd 3 o blith y prentisiaid gwreiddiol, Jess Hancock, Dan White a Kyle Raubenhaimer yn astudio ar gyfer gradd sylfaenol mewn hyfforddi ym Mhrifysgol De Cymru ac mae Owrn Young wedi ei benodi'n swyddog rygbi yn Ysgol Garth Olwg. Dywedodd Owen " Mae'r prentisiaeth wedi agor drysau i mi nid dim ond o fewn y byd rygbi ond o fewn chwaraeon eraill hefyd. Dyw'r broses ddim wedi bod yn hawdd o gwbl ond ar ol gwneud yn wael tra yn yr ysgol, mae'r cynllun mae'r cynllun wedi caniatau imi ganfod cymwysder a gyrfa mewn maes dwi wrth fy modd ynddo."
Mae mwy o fanylion ynglyn ag ymuno a'r cynllun ar gael ar wefan URC ac mae'r Cynllun Prentisiaeth sy'n cael ei arwain gan Lywodraeth Cymru yn cael ei gynorthwyo gan y Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd.