Mae dau aelod blaenllaw o Undeb Rygbi Cymru wedi derbyn anrhydeddau gan Brifysgolion Cymru.
Mae Prifysgol y Drindod Dewi Sant wedi cynnig Cymredoriaeth Anrhydeddus i Lywydd URC Dennis Gethin ac mae Nigel Owens wedi cael cynnig yr un anrhydedd gan Brifysgolion Caerdydd a Metropolitan Caerdydd. Mae'r ddau eisoes wedi derbyn anrhydeddau OBE a MBE gan y Frenhines fis diwethaf.
Cafodd Dennis Gethin ei gydnabod am ei wasanaeth i Rygbi Cymru a dywedodd, "Mae'n fraint i dderbyn yr anrhydedd yma gan Brifysgol y Drindod Dewi Sant ac rwy'n ddiolchgar yn enwedig i'r clybiau bychain yng Nghymru sy'n asgwrn cefn y gem am eu cefnogaeth. Y gwirfoddolwyr ar y lefel gymunedol yw ein cryfder."
Cafodd Nigel Owens ei anrhydeddu am ei lwyddiant arbennig fel dyfarnwr ac hefyd am eigyfraniad ehangach i fywyd a diwylliant Cymru. Mewn araeth yn Neuadd Dewi Sant Caerdydd fe annogodd bobl ifanc i gofio'u gwreiddiau ac i gydio yn y cyfleoedd bydd yn dod i'w rhan – "Un o werthoedd sylfaenol rygbi yw parch – sef elfen sy'n briny n ein cymdeithas heddiw. Mae pawb yn wahanol ond mae'n bwysig parchu'r gwahaniaethau rheiny ac i drin pawb yn gyfartal. Mae ganddoch chi'r cyfle i wella'n cymdeithas drwy drin pawb yn gyfartal," meddai.
"Cydiwch mewn cyfleon wrth i chi ddod ar eu traws ond peidiwch byth ag anghofio'ch teuluoedd, eich ffrindiau, eich cymunedau eich ysgiolion a'ch colegau sydd wedi bod yn gymorth i chi ar hyd y ffordd."