Mae Lyon yn croesawu timau rowndiau terfynol cwpanau Ewrop i'r ddinas yn Ffrainc ac unwaith eto yr unig ddiddordeb Cymreig yw'r unigolion hynny o Gymru sy'n chwarae y tu hwnt i ffiniau ein gwlad ni.
Mae rownd derfynol y Cwpan Pencampwyr rhwng Racing 92 a'r Saraseniaid yn debyg o fod yn gêm gorfforol rhwng dau dîm sy'n hoffi chwarae mewn ffordd uniongyrchol iawn.
Mae'r Saraseniaid yn chwarae mewn dull mwy agored nag yr oedden nhw'n arfer gwneud, ond fe fyddwn ni'n lwcus os gwelwn ni'r bêl yn mentro ymhellach na'r maswr yn aml iawn. Mae Racing 92 yn parhau i fod mor agoraffobig ag erioed.
Er gwaetha'r ffaith bod ganddyn nhw, o bosib, y maswr gorau yn hanes y gêm sy'n gwybod sut i ryddhau set o olwyr talentog, bydd y tîm Ffrengig yn glynu at y gêm gorfforol, bwerus gan ddibynnu ar giciau Dan Carter i geisio ennill y gêm.
Ond fe fydd y Saraseniaid yn eu bwyta nhw'n fyw. Maen nhw'n gallu chwarae'r gêm gorfforol am 80 munud a'r unig ffordd o'u curo nhw yw trwy chwarae gêm gyflym, agored.
O edrych ar gryfder a dyfnder carfannau'r clybiau yma, ynghyd â rhai eraill yn Lloegr a Ffrainc, mae rhanbarthau Cymru a chlybiau'r Pro 12 yn edrych braidd yn wan.
Gyda dim ond un tîm o Gymru ym mhrif gystadleuaeth Ewrop y tymor nesaf a phencampwyr tebygol y Pro 12 y tymor hwn, Leinster, yng ngwaelod eu grŵp ym mhencampwriaeth Cwpan Ewrop y tymor hwn, dyw pethau ddim yn argoeli'n dda ar gyfer 2016-17.
Felly beth sydd angen i ranbarthau Cymru ei wneud er mwyn gwella eu perfformiad y tymor nesaf?
Mi wna i ddechrau gyda'r Scarlets. Gallwn ddweud bod ganddyn nhw ar bapur set o olwyr i gystadlu gyda'r gorau. Fe allan nhw elwa o gael asgellwyr mwy effeithiol efallai, ond ymysg y blaenwyr mae'r problemau mawr ac mae angen iddyn nhw gryfhau dipyn yn y pac.
Mae'n ymddangos bod y Gleision yn mynd i'r cyfeiriad iawn. Maen nhw angen cryfhau mewn ambell safle, yn enwedig ar y pen tyn a'r ail reng. Os gall Cuthbert adennill ei hyder ac os medr Ray Lee-Lo gael hyd i bartner yng nghanol y cae, bydd golwg go lew ar y tîm. Ar y cyfan, mae wedi bod yn dymor cyntaf boddhaol i'r hyfforddwr Danny Wilson.
Mae problemau'r Gweilch yn bennaf ymhlith y tri olwr cefn a'r tair rheng flaen. Yn anffodus nid yw Eli Walker wedi cael y tymor yr oedden nhw wedi ei obeithio. Mae yna nifer o chwaraewyr canol cae crefftus y dyddiau yma yn Stadiwm y Liberty, ond mae angen chwaraewyr o ansawdd o'u hamgylch iddyn nhw. Y broblem arall yw'r propiau ac, am y tro cyntaf, mae'r sgrym wedi bod yn destun gofid.
Mae'r Dreigiau wedi cael tymor anodd arall ac mae'n ymddangos bod mwy o ofid o'u blaenau. Maen nhw ar fin colli eu hunig chwaraewr o wir safon ryngwladol, Faletau, a byddan nhw'n awyddus i ddatblygu to o chwaraewyr ifanc cyffrous i chwarae'n rheolaidd.
Mae Kingsley Jones yn ddyn o Went o'i gorun i'w sawdl ac mi fydd yn awyddus i sicrhau canlyniadau gwell. Y broblem sydd ganddyn nhw yw nad yw'r cynnydd sy'n cael ei wneud yn ddigon i gystadlu gyda'r clybiau eraill yn y cynghrair nac yn Ewrop.
Felly mae gan y rhanbarthau ddigon i'w wneud cyn y tymor nesaf. Yn y cyfamser, mae gennym ni lond llaw o rowndiau terfynol i'w mwynhau yn yr wythnosau nesaf.
Yn bersonol, rwy'n gobeithio mai Racing 92 fydd yn codi'r Cwpan Pencampwyr yn Lyon y penwythnos hwn. Wrth ddod i'r casgliad hwn, rwyf wedi gorfod ystyried nifer o ffactorau. Fodd bynnag, rwy'n meddwl y galla i grynhoi fy rhesymau mewn dau air, 'Chris Ashton'.