Cyhoeddodd Prif Hyfforddwr Cymru Rob Howley bydd hyfforddwr cefnwyr ac olwyr y Gleision Matt Sherratt yn ymuno gyda'r Garfan Genedlaethol, ac yn rhannu'i amser rhwng y 2 rôl yn ystod y paratoadau ar gyfer Cyfres Under Armour yr Hydref sy'n cychwyn yn erbyn Awstralia yn Stadiwm Principality ar y 5ed o Dachwedd.
Ymunodd y gwr 40-mlwydd-oed gyda Gleision Caerdydd pan adawodd Rygbi Bryste cyn cychwyn tymor 2016/17. Cyrhaeddodd Bryste yn 2011 ar ol cyfnod yn hyfforddi'r Worcester Warriors, ble bu'n cyd-weithio gyda Phrif Hyfforddwr y Gleision, Danny Wilson. Bydd yn gweithio ochr yn ochor gyda Wilson unwaith eto yng Nghaerdydd y tymor hwn. Bu ei gyfnod o bum mlynedd ym Mryste yn llwyddiannus iawn, ac enillodd y tim ddyrchafiad i'r Uwch Gynghrair yn gynharach eleni.
Dywedodd Howley: "Rwyf wrth fy modd yn gallu dod â Matt yn aelod o'r tîm hyfforddi. Mae gennym dîm hyfforddi rhyngwladol profiadol iawn ac rwy'n credu y bydd Matt yn ychwanegu at yr hyn sydd gennym yn barod..
"Er ei fod yn ifanc , mae'n hyfforddwr profiadol ac mae wedi ennill parch y chwaraewyr a'r hyfforddwyr yma yng Nghymru ac yn Lloegr, a bydd yn gaffaeliad mawr i ni.
"Mae'n wych ein bod yn gallu dod a hyfforddwr rhanbarthol i'r Garfan ar gyfer y cyfnod hwn a hoffwn ddiolch i Gleision Caerdydd a Danny Wilson am eu cefnogaeth ac am ganiatáu i Matt weithio gyda ni. Bydd yn parhau gyda'i ymrwymiad gyda'r Gleision yn ystod ei amser gyda ni ond mae'n gyfle gwych iddo brofi amgylchedd rhyngwladol ac ychwanegu ei gyfraniad. "
Meddai Sherratt: Mae'n fraint enfawr i gael y cyfle i ymuno â thîm hyfforddi Cymru ac i weithio ochr yn ochr â'r rheolwyr a'r garfan ar gyfer yr ymgyrch sydd i ddod. Mae'n gyfle gwych, ac 'rwy'n edrych ymlaen yn fawr.
"Hoffwn ddiolch i dim rheoli'r Gleision am ganiatáu i mi fanteisio ar y cyfle hwn. Maent wedi bod yn gefnogol iawn a chredaf y bydd y profiad o fudd i mi fel hyfforddwr ac yn ei dro felly'n fuddiol i'r Gleision."
Dywedodd prif hyfforddwr y Gleision, Danny Wilson: "Mae hwn yn gyfle gwych i Matt i brofi amgylchedd rhyngwladol ac i ddatblygu ymhellach fel hyfforddwr.
"Mae eisoes wedi creu ei farc yma gyda Gleision Caerdydd ac rwy'n siwr bydd ei gyfranogiad gyda thim Cymru yn ystod Cyfres Under Armour yn fanteisiol i Matt ac i ni yn y pendraw.
"Bydd Matt yn parhau â'i ymrwymiad gyda'r Gleision tra hefyd yn gweithio gydag Undeb Rygbi Cymru yn ystod y cyfnod."