Bydd Sam Warburton yn holliach er mwyn bod yn gapten dros Gymru yng ngemau rhyngwladol Cyfres Under Armour fis nesaf.
Mae'r chwaraewr rheng-ôl wedi cael llawdriniaeth ar asgwrn ei foch yn dilyn gwrthdaro rhyngddo ef a Josh van der Flier o Leinster wrth i'r Gleision golli 16-13 iddyn nhw ddydd Sadwrn d'wethaf. Yn dilyn sganiau ac asesiad pellach, bydd Warburton yn cael plât bach wedi'i osod yn ei foch.
Ond dim ond am gyfnod o rhwng dwy a phedair wythnos mae'r anaf yn debygol o gadw capten Cymru oddi ar y cae, sy'n golygu y dylai fod yn holliach ac yn barod i arwain tîm Rob Howley yn Stadiwm Principality fis nesaf. Bydd Cymru'n cychwyn eu hymgyrch yr Hydref hwn yn erbyn Awstralia cyn croesawu Yr Ariannin, Japan a De Affrica i'r Brifddinas.
Fodd bynnag, mae gan Howley fwy o bryderon ynglyn ag anafiadau ymysg ei reng-ôl. Nid yw Dan Lydiate wedi chwarae gyda'r Gweilch eto y tymor hwn ar ôl cael llawdriniaeth ar ei ysgwydd nôl ym mis Mehefin, tra bod ei rif wyth, Taulupe Faletau, wedi bod allan o'r gêm ers anafu gewynnau yn ei ben-glin yn ei gêm gyntaf yn yr Uwch Gynghrair dros Caerfaddon ar Fedi'r 3ydd.
"Mae Sam Warburton yn gapten gwych," meddai Howley ar ôl penodi Warburton fel ei gapten. "Bu'n gapten ar y Llewod a bydd yn parhau i fod yn gapten dros Gymru. Rwyf wedi siarad â Sam yn barod, ac ef fydd ein capten ar gyfer cyfres yr Hydref a Phencampwriaeth y Chwe Gwlad.
"Ar hyn o bryd rwy'n credu mai Sam Warburton yw'r chwaraewr gorau i'n harwain. Wrth gwrs mae wedi arwain y Llewod unwaith, a dwi'n siŵr bydd pobol yn tybio y gallai eu capteinio eto, ond yr her i bob chwaraewr ar hyn o bryd yw Cyfres yr Hydref a'r Chwe Gwlad. "