Mae Undeb Rygbi Cymru yn falch o gyhoeddi bod Sara Davies wedi ei phenodi fel Rheolwr Tîm a Chydlynydd Dynion Saith Bob Ochor Cymru, Dan 20 a Dan 18.
Bydd Davies yn ailymuno â'r Undeb ar ôl pum mlynedd gyda Dreigiau Casnewydd Gwent, ble roedd hi'n cynnal rôl fel Rheolwr Tîm yn fwyaf diweddar. Cyn hynny bu'r chwaraewraig rygbi rhyngwladol Menywod Dan 19 yn gweithio i URC a oedd yn cynnwys rôl dwy flynedd fel Rheolwr Tîm Menywod Cymru dan 20.
"Rwyf wrth fy modd i fod yn ymuno ag Undeb Rygbi Cymru yn ystod cyfnod cyffrous i'r sefydliad," meddai Davies. "Hoffwn ddiolch i'r Dreigiau am y profiad dwi wedi cael gyda nhw mewn cyfnod boddhaol iawn yn fy ngyrfa. Dwi'n mwynhau bwrw iddi gyda'r rôl newydd yma'n barod, yn mwynhau gweithio gyda'r timau rheoli a chydgysylltu gyda'r Rhanbarthau, timau Uwch Gynghrair Principality a chyrff eraill i sicrhau bod ein timau rhyngwladol yn cael eu paratoi yn drylwyr, ar ac oddi ar y cae. "
Dywedodd Pennaeth Perfformiad Rygbi, Geraint John: "Rydym yn falch iawn o groesawu Sara yn ôl i Undeb Rygbi Cymru mewn rôl newydd sbon i'r adran rygbi. Bydd profiad rygbi Sara yn y gêm broffesiynol yng Nghymru yn werthfawr iawn. Lles y chwaraewyr fydd ei phrif ganolbwynt wrth gyd-weithio gyda'r holl dimau rheoli i sicrhau bod diwylliant perfformiad safonol hefyd yn flaengar drwy amrywiol raglenni Undeb Rygbi Cymru. "
Dywedodd Stuart Davies, prif weithredwr Dreigiau Casnewydd Gwent,:. "Rydym yn flin i weld Sara'n gadael, ond 'dydyn ni ddim yn synnu iddi gael cynnig y cyfle hwn. Dymunwn bob llwyddiant iddi yn ei rôl newydd. "