Mae cyn-hyfforddwr cynorthwyol Saith Bob Ochr Cymru Gareth Baber newydd dderbyn swydd mwyaf heriol y gamp drwy gymryd lle Ben Ryan fel hyfforddwr Fiji.
Bydd Baber, a benodwyd fel hyfforddwr saith bob ochr y dynion ac fel prif hyfforddwr rhaglen rygbi saith elitaidd yn Sefydliad Chwaraeon Hong Kong yn 2013, yn gyfrifol am enillwyr medal aur Rio a phencampwyr Cyfres y Byd, yn y Flwyddyn Newydd. Mae gan Baber brofiad o'r radd flaenaf yn y gamp saith bob ochr, ar ôl bod yn hyfforddwr cynorthwyol dros Gymru pan enillo' nhw gystadleuaeth y plât yng Ngemau'r Gymanwlad yn Melbourne yn 2006.
"Rwyf am ddwyshau fy ngwybodaeth o'r gêm ac mae'r safon cystadleuol sydd wedi'i gyrraedd gan Fiji yn golygu bydd cyfle i mi barhau i wneud hynny." Meddai Baber.
Penodwyd Baber ar gytundeb pedair blynedd gyda Fiji i ddechrau, a fe fydd yn gyfrifol am arwain y pencampwyr Olympaidd drwy Gemau'r Haf nesaf yn Japan yn 2020. "Fel hyfforddwr, mae hwn yn gyfle anhygoel i mi gydweithio gyda'r pencampwyr byd ac Olympaidd presennol ac mae angen her cyson ar hyfforddwyr yn ogystal â chwaraewyr."
"Ni fyddai'r penodiad yma wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth Undeb Rygbi Hong Kong a'r cyfleoedd y maent wedi eu rhoi i mi. Mae gen i hoffter aruthrol o Hong Kong a rygbi Hong Kong, ac os oes un rheswm positif dros adael, y ffaith 'mod i'n cael cyfle i gweithio gyda Rygbi Fiji yw hwnnw. Mae ganddynt berthynas arbennig gyda'r ddinas, ac fe gâf i'r cyfle i ddychwelyd bob blwyddyn yn ystod Pencampwriaeth Saith bob Ochr Hong Kong, "meddai Baber.