Bydd y Wallabies yn cyrraedd Cymru yr wythnos hon gyda'u meddyliau ar ennill yng ngêm agoriadol Cyfres Under Armour yn erbyn Cymru yn Stadiwm Principality dros y penwythnos.
Efallai eu bod wedi cael tipyn o ysgytwad yn erbyn Lloegr dros yr Haf, ond mae eu prif hyfforddwr Michael Cheika wedi annog ei chwaraewyr i droi eu meddyliau at fuddugoliaeth wrth iddynt geisio cwblhau eu taith Camp Lawn gyntaf yn Ewrop ers 1984.
Bydd y gêm ym mhrifddinas Cymru ddydd Sadwrn yn lawnsio eu hymgyrch beiddgar i ennill pum gêm Brawf mewn pum wythnos a byddant yn ceisio cael 12 buddugoliaeth yn olynol dros y timau cartref. Mae'r cyfan yn darogan brwydr ddwys ac agos arall yng nghartref rygbi Cymru.
"Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod y chwaraewyr yn breuddwydio am gyflawni'r Gamp Lawn. Dwi'n pwysleisio hyn," meddai Cheika, sydd wedi dewis 11 o chwaraewyr newydd ers colli rownd derfynol Cwpan Rygbi'r Byd 2015 i Seland Newydd.
"Os nad oes ganddoch freuddwydion, yna beth ydy'r pwynt o fod yma? Ond y gwir amdani yw mewn cyfres fel hon, a thaith fel hon, y diwrnod nesaf sy'n cyfrif bob tro.
"Dyna sy'n y cefndir, ond bydd yn dwyn ffrwyth pan fyddwn yn wych bob dydd a'n chwaraewyr yn dysgu ac aeddfedu. Bydd y tîm yn newid ond byth yn colli ei hunaniaeth, dros y flwyddyn hon a'r nesaf -. bydd yr hunaniaeth bob amser yn aros yr un peth.
"Bydd y bois yma'n dysgu sut i fyw'r hunaniaeth honno a chwarae'r arddull o rygbi sy'n ein gweddu, ac yna ar ôl 2018, byddwn yn dechrau ffurfio ac asio fel grŵp fydd yn datblygu unwaith eto o'r fan honno.
"Rydym am ennill gemau Prawf, hefyd, ac am i'n gwlad fod yn falch ohonom pan fyddwn yn chwarae'r gêm. Mae'r cydbwysedd yn anodd weithiau, ond rydym yn eithaf mwynhau'r her."
Mae'r Wallabies wedi ennill 10 o'r 11 gêm ddiwethaf gan ddim mwy na naw pwynt ac mae chwech o'r buddugoliaethau hynny wedi bod gan gais neu lai. Mae'n rhaid i chi fynd yn ôl i 2008 er mwyn cofio'r tro dwethaf i Gymru guro Awstralia a dim ond Gethin Jenkins, Jamie Roberts ac Alun Wyn Jones o'r garfan presennol sydd wedi blasu llwyddiant yn erbyn y dynion mewn aur wrth wisgo crys Cymru.