Ar gyfer y gêm yn erbyn De Affrica yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn (CG 17:30). Dim ond un newid sydd i dim Cymru drechodd yr Ariannin bythefnos yn ôl.
Daw Dan Lydiate i mewn fel blaenasgellwr ochr dywyll yn lle Sam Warburton sydd wedi derbyn anaf yn ystod sesiwn hyfforddi ddydd Mawrth.
Mae dau newid arall ymhlith yr eilyddion gyda Taulupe Faleatu yn dychwelyd o anaf i gymryd ei le ar y fainc, ochr yn ochr â maswr y Gweilch Sam Davies.
Bydd Gethin Jenkins yn arwain Cymru ac yn cymeryd ei le ochr yn ochr â Ken Owens a Tomas Francis.
Luke Charteris ac Alun Wyn Jones fydd yn yr ail reng gyda Lydiate yn chwarae ochr yn ochr â Justin Tipuric a Ross Moriarty yn y rheng ol.
Gareth Davies a Dan Biggar fydd unwaith eto yn safle'r haneri gyda'r ddau o'r Scarlets, Scott Williams a Jonathan Davies yng nghanol y cae.
Yr un tri a wynebodd yr Ariannin sydd yn y cefn gyda Leigh Halfpenny fel cefnwr a George North a Liam Williams ar yr esgyll.
"Roeddem yn falch o'r fuddugoliaeth yn erbyn yr Ariannin felly rydym wedi dewis fwy neu lai yr un tîm ar gyfer yr ornest yn erbyn De Affrica," meddai'r prif hyfforddwr Rob Howley.
"Dim ond un newid sydd yn y rheng-ôl. Cafodd Sam (Warburton) anaf bach ddydd Mawrth ac ni fydd yn holliach, felly bydd Dan yn dod i mewn i'r tim. Chwaraeodd Dan yn arbennig o dda yn erbyn Japan felly rydym yn falch ei fod yn yn cael y cyfle eto.
"Mae'n dda cael Taulupe yn ôl yn y garfan, bydd yn ychwanegu tipyn ar y fainc. Rydym wrth ein bodd gyda Sam, dangosodd hen ben ar ysgwyddau ifanc ynghyd a chywirdeb unigol y penwythnos diwethaf ac mae'n cael cyfle arall ar y fainc, fel y gwnaeth yn erbyn Awstralia.
"Mae mymryn o siom o ran ein perfformiad yn erbyn Siapan ac rydym eisiau unioni hynny. Nid ennill yn unig yw ein nod y penwythnos hwn rydym am berfformiad da hefyd."
Ar y fainc, Scott Baldwin, Nicky Smith a Samson Lee fydd yr eilyddion i'r blaenwyr. Bydd Cory Hill yn chwilio am ei drydydd cap y penwythnos hwn ac yn ymuno â Faleatu. Lloyd Williams, Davies a Jamie Roberts fydd yn eilyddio'r rheng ol.
TÎM CYMRU I CHWARAE YN ERBYN DE AFFRICA:
15. Leigh Halfpenny (Toulon) (65 Cap)
14. George North (Northampton Saints) (64 Cap)
13. Jonathan Davies (Scarlets) (58 Cap)
12. Scott Williams (Scarlets) (40 Cap)
11. Liam Williams (Scarlets) (37 Cap)
10. Dan Biggar (Gweilch) (50 Cap)
9. Gareth Davies (Scarlets) (21 Cap)
1. Gethin Jenkins (Gleision Caerdydd) (128 Cap
(CAPTEN)
2. Ken Owens (Scarlets) (44 Cap)
3. Tomas Francis (Exeter Chiefs) (16 Cap)
4. Luke Charteris (Rygbi Caerfaddon) (70 Cap)
5. Alun Wyn Jones (Y Gweilch) (104 Cap)
6. Dan Lydiate (Y Gweilch) (59 Cap)
7. Justin Tipuric (Gweilch) (45 Cap)
8. Ross Moriarty (Caerloyw) (11 Cap)
EILYDDION:
16. Scott Baldwin (Y Gweilch) (27 Cap)
17. Nicky Smith (Gweilch) (6 Cap)
18. Samson Lee (Scarlets) (28 Cap)
19. Cory Hill (Dreigiau Casnewydd Gwent) (2 Cap)
20. Taulupe Faletau (Rygbi Caerfaddon (61 Cap)
21. Lloyd Williams (Gleision Caerdydd) (28 Cap)
22. Sam Davies (Gweilch) (2 Cap)
23. Jamie Roberts (Harlequins) (85 Cap)
CHWARAEWYR SYDD WEDI'U RHYDDHAU
Mae'r chwaraewyr canlynol wedi cael eu rhyddhau yn ôl i'w rhanbarthau .
Gleision Caerdydd: Rhys Gill, Kristian Dacey, Tomos Williams, Gareth Anscombe, Cory Allen, Alex Cuthbert, Rhun Williams *
Gweilch: Rory Thornton, Dan Baker
Scarlets: Jake Ball
Dreigiau Casnewydd Gwent: Harrison Keddie *, Leon Brown *