Mae llywydd Undeb Rygbi Cymru, Dennis Gethin wedi derbyn ei OBE am wasanaethau i rygbi Cymru, gan Ddug Caergrawnt ym Mhalas Buckingham.
Y Tywysog William, sy'n Is-Noddwr URC, gyflwynodd yr anrhydedd i Mr Gethin mewn seremoni yn Llundain.
Cafodd llywydd Undeb Rygbi Cymru, a benodwyd yn 2007, ei enwi ar restr Anrhydeddau Pen-blwydd 90 oed y Frenhines ym mis Mehefin.
Bellach yn byw ym Mhontypridd, roedd Mr Gethin yn gefnwr o'r radd flaenaf , a derbyniodd dau 'Rugby Blue' tra'n fyfyriwr yng Nghaergrawnt. Cynrychiolodd ei glwb cartref ym Mlaendulais ac yna chwaraeodd dros Abertawe, Castell-Nedd, Caerdydd a'r Glamorgan Wanderers cyn rhoi'r gorau i rygbi er mwyn canolbwyntio ar ei yrfa gyfreithiol.
Yn ogystal â bod yn brif weithredwr ar hen Gyngor Bwrdeistref Taf Elái, roedd hefyd yn Ysgrifennydd Undeb Rygbi Cymru rhwng 1998 a 2003, gan oruchwylio cyfnod adeiladu Stadiwm y Mileniwm a Chwpan Rygbi'r Byd 1999.
Ond mae'n dweud mai ei rôl fel llywydd URC, a'r cysylltiad gydag Ymddiriedolaeth Elusennol Rygbi Cymru, sydd wedi rhoi'r pleser mwyaf iddo.
"Mae'n anrhydedd enfawr ac mae gen i gymaint o bobl i ddiolch iddyn nhw, yn enwedig y clybiau," meddai Mr Gethin, sydd hefyd yn lywydd Ymddiriedolaeth Elusennol Rygbi Cymru ar gyfer chwaraewyr sydd wedi eu hanafu.
"Mae pawb sy'n gysylltiedig â rygbi Cymru wedi bod mor gymwynasgar a chefnogol drwy gydol fy ngyrfa ond mae fy amser fel llywydd yn sicr wedi bod yn uchafbwynt, ac rwy'n derbyn yr anrhydedd yma ar ran clybiau rygbi Cymru, ac Ymddiriedolaeth Elusennol Rygbi Cymru.
"Rhaid i mi ddiolch hefyd i fy ngwraig Janet, sydd wedi bod yn gefn i mi drwy gydol y cyfnod hwn."
Mae Mr Gethin hefyd yn dal swyddi fel llywydd Rygbi Byddar Cymru, cadeirydd Ymddiriedolaeth Elusennol Rygbi Cymru, sef elusen sy'n ymroddedig i ddarparu cymorth a chefnogaeth i chwaraewyr rygbi sydd wedi derbyn anafiadau difrifol, noddwr Rygbi Sir Forgannwg, aelod oes o'r Clwb Rygbi Academicals Cymreig a Chlwb Rygbi Blaendulais, llywydd Côr Meibion Pontypridd ac is-lywydd Côr Meibion De Cymru.
Dywedodd cadeirydd Undeb Rygbi Cymru Gareth Davies: "Mae Dennis yn llawn haeddu'r anrhydedd hwn gan ei fod yn gwbl ymroddedig i rygbi Cymru ar bob lefel.
"Mae'n llywydd delfrydol gan ei fod yn cynrychioli pob agwedd o Rygbi Cymru. Bu'n chwaraewr blaengar, yn gweinyddu'r Undeb a Rygbi Cymru trwy ei ymrwymiad i glybiau llawr gwlad a bu'n gweithio gydag Ymddiriedolaeth Elusennol Rygbi Cymru."