Gyda Warren Gatland yn enwi ei garfan o 33 o chwaraewyr ar gyfer pencampwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Mawrth nesaf, dyma ddetholiad o bum chwaraewr fydd yn debyg o gael eu hystyried gan hyfforddwyr Cymru.
Mae clo'r Gweilch, a fydd yn dathlu ei ben-blwydd yn 25 oed bum diwrnod cyn y gêm agoriadol yn Nulyn, wedi creu argraff gyda'i berfformiadau cryf yn y Liberty y tymor hwn. A allai'r bachgen o Gaerffili barhau eu partneriaeth lwyddiannus gydag Alun Wyn Jones yn y tîm rhyngwladol?
Dyma'r mewnwr diweddaraf i serennu i dîm cyntaf y Scarlets, mae perfformiadau Davies wedi cynyddu'r pwysau ar fewnwr Cymru yng Nghwpan Rygbi'r Byd, Gareth Davies. Gyda'i basio cywir a'i grebwyll tactegol, byddai Davies yn opsiwn da petai Rhys Webb yn methu'r gystadleuaeth oherwydd anaf.
Roedd Morgan, a fydd yn chwarae i'r Gleision y tymor nesaf, yn aelod o garfan Warren Gatland yng Nghwpan Rygbi'r Byd. Fe greodd argraff gyda'i rediadau cyffrous yn erbyn Fiji. Ond ers cyhoeddi ei fod yn gadael Bryste, mae'r cefnwr wedi treulio cryn dipyn o amser ar y fainc, a falle fydd diffyg munudau ar y cae yn cyfrif yn ei erbyn.
Petai Gatland yn dewis asgellwr ar sail safon eu perfformiadau i'w clwb y tymor yma, Tom James fyddai'r dewis amlwg. Mae perfformiadau'r chwaraewr, sydd wedi sgorio mwy o geisiau dros y Gleision na'r un chwaraewr arall, yn parhau i wella ac yn edrych fel petai yn barod i wireddu ei botensial ar y llwyfan rhyngwladol.
Mae'r maswr wedi dangos ei botensial dros y Gleision ers peth amser, ac mae wedi datblygu ei gêm ymhellach y tymor hwn gyda pherfformiadau cryf ac awdurdodol. Ond gyda Biggar yn ddewis cyntaf amlwg, Priestland ar gael unwaith eto i'r tîm cenedlaethol, a'r Kiwi Gareth Anscombe yn gwella ar ôl anaf yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd, y cwestiwn yw: Pa fath o ran y gallai Patchell ei chwarae yng ngharfan Gatland?